Streic y glowyr wedi ‘paratoi’r ffordd’ at ddatganoli yng Nghymru

Streic y glowyr wedi ‘paratoi’r ffordd’ at ddatganoli yng Nghymru


Roedd y streic yn adlewyrchu beth oedd yn digwydd ar lawr gwlad, mewn cyfnod lle gwelwyd newidiadau mawr o ran yr economi ond mewn cymdeithas hefyd.

Roedd gwleidyddiaeth y cyfnod yn adlewyrchu’r newid yna.

Dywed y sylwebydd gwleidyddol yr Athro Richard Wyn Jones fod y streic wedi llwyddo i adeiladu pontydd yn y byd gwleidyddol.

“Roedd streic y glowyr yn ddiddorol nid gymaint oherwydd fod y pleidiau yn cydweithredu, oherwydd roedd llawer o gydweithredu rhwng Plaid Cymru, a’r mudiad cenedlaethol a’r mudiad llafur,” meddai.

“Roedd lot o hen amheuaeth a chynnen ‘di bod yn y berthynas yna yn hanesyddol, a dwi’n meddwl fod y streic wedi bod yn bwysig wrth adeiladu pontydd rhwng be’ fyddech chi’n galw’r mudiad cenedlaethol a’r mudiad llafur, a bod hynny wedi bod yn ffactor arwyddocaol yn be’ ddigwyddodd yn niwedd y 90au a’r newid mawr mewn barn ynglŷn â datganoli rhwng 1979 a 1997.”



Source link


Discover more from Сегодня.Today

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Discover more from Сегодня.Today

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading