Andrew RT Davies yn ymddiswyddo fel arweinydd y Ceidwadwyr
Mae Andrew RT Davies wedi cyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd.
Daw hyn er iddo ennill pleidlais o hyder fore Mawrth.
Mae BBC Cymru yn deall fod grŵp y Torïaid yn y Senedd wedi’i hollti, gyda naw yn pleidleisio drosto – gan gynnwys Mr Davies ei hun – a saith yn erbyn.
Mewn llythyr at gadeirydd y Torïaid Cymreig, Bernard Gentry, dywedodd Mr Davies ei fod yn ymddiswyddo “gan resynu”.
Yr aelodau oedd wedi pleidleisio o blaid Mr Davies oedd Gareth Davies, Paul Davies, Russell George, Mark Isherwood, Joel James, Laura Anne Jones, Darren Millar, Janet Finch Saunders a Mr Davies ei hun.
Y rhai a bleidleisiodd yn ei erbyn oedd Natasha Asghar, James Evans, Peter Fox, Tom Giffard, Altaf Hussein, Sam Kurtz a Sam Rowlands.
Discover more from Сегодня.Today
Subscribe to get the latest posts sent to your email.