Ateb y Galw: Meinir Howells

Ateb y Galw: Meinir Howells


Ffynhonnell y llun, Meinir Howells

Yr amaethydd a’r cyflwynydd, Meinir Howells, sy’n Ateb y Galw yr wythnos yma, a hithau’n ddiwrnod cyntaf y Sioe Aeaf yn Llanelwedd – dyddiad pwysig yn y calendr amaethyddol.

Ym mis Gorffennaf 2024, enillodd Wobr Ffermwraig y Flwyddyn gan NFU Cymru, ac mae hi newydd gyhoeddi ei hunangofiant, Ffermio ar y Dibyn.

Mae hi’n ffermio gyda’i theulu ar fferm Shadog ger Llandysul.

Beth yw eich atgof cyntaf?

Eistedd ar sil ffenest yn yr hen feudy yn gwylio Mam yn clymu’r gwartheg ac yn rhoi y lloi i sugno.

Yn sicr mae ffermio wedi newid tipyn erbyn hyn, ond dyna lle blanwyd yr hedyn yndda i, fy mod ishe amaethu fel fy mam a’n nhad.

Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?

Yn yr haf, ein hoff le ni fel teulu ar bnawn dydd Sul, er mwyn cael hoe fach o’r fferm yw picnic ar ben Llyn Brianne! Dim byd gwell nag ymlacio yng nghanol golygfeydd godidog Rhandirmwyn, sy’n lle perffaith i’r enaid gael llonydd yng nghanol mynydde y Cambrian a’r ardal hyfryd o’u cwmpas.

Beth yw’r noson orau i chi ei chael erioed?

Ein priodas ni; teulu a ffrindiau i gyd dan yr un to, a phriodi Gary, fy ffrind gorau a’r person sydd wastad wrth fy ochr, beth bynnag ddaw.

Disgrifiwch eich hun mewn tri gair

Cyflwynydd, ffermwr a’r peth pwysicaf, Mam.

Ffynhonnell y llun, Meinir Howells
Disgrifiad o’r llun,

Mae plant Meinir – Sioned a Dafydd – hefyd yn gyfforddus mewn welis!

Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl ‘nôl?

Antics y Ffermwyr Ifanc. Mae fy nyled i yn fawr iawn i fudiad y Ffermwyr Ifanc, ac fe wnaeth roi cyfleodd bythgofiadwy imi; o deithio tramor, i gwrdd ffrindiau oes, i gystadlu mewn amrywiaeth o gystadlaethau gan fagu hyder a phrofiad. Dwi wastad yn chwerthin a gwenu wrth feddwl am y profiadau gwerthfawr ges i tra’n aelod, a’r pethau dwl nes i!

Bob blwyddyn fe fydden ni’n gwisgo mewn gwisg ffansi rhyfedd ar gyfer y deuawdau doniol yn yr Eisteddfod, o fabi i fuwch – y mwya’ rhyfedd y gorau – heb anghofio y cyd-deithio gydag aelodau ar draws Cymru i wahanol gystadlaethau, ac fe fyddai mynd ar goll yn rhan o’r antur! Dyna un peth wnaeth y mudiad ddim dysgu ni – sut oedd darllen map!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?

Nes i berfformio y cymeriad Rizzo yn sioe’r ysgol – Grease – adeg Nadolig flynyddoedd maith yn ôl, ac wrth imi redeg oddi ar y llwyfan cyn hanner amser, fe wnes i benderfynu mynd am y tŷ bach yn go gloi cyn bod pawb arall yn gwneud yr un peth.

O’n i’n byrstio, a phan gyrhaeddes i, o’dd fy ffrind Caryl wedi cyrraedd yno o’m mlaen i, ac felly dyma fi’n gweiddi mas, “Caryl er mwyn popeth paid bod yn hir… dwi bron â llenwi fy nillad isa!”

Popeth yn iawn meddyliais, tan fy mod i wedyn yn sylweddoli bod fy meic i dal arno, a bod y ddeuawd hyfryd gan Sandy a Danny wedi cael ei sbwylio gyda fy llais anobeithiol i!

Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?

Clywed parti canu plant Ysgol Bro Teifi yn perfformio mor braf yn lawnsiad fy llyfr i ar ddechrau’r mis, adre yn ein sied ni yn Shadog. Fe roedden nhw’n wefreiddiol.

Ffynhonnell y llun, Meinir Howells
Disgrifiad o’r llun,

Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?

Gormod i restru! Yr un mwyaf yw dwdlo! Dwi ddim yn dda am eistedd yn llonydd am hir, ac felly does dim ots ble fydda i, neu pa mor bwysig yw’r cyfarfod, fe fydda i wedi cael gafael mewn papur a phensil ac yn dwdlo!

Mae Gary yn mynd yn grac gyda fi bob tro, yn dweud pa mor anghwrtais ydw i, ond dwi wir methu â helpu’r peth! Dwi’n llwyr canolbwyntio ar beth sy’n cael ei ddweud, ond bydd rhaid imi dwdlo rhywbeth, fel arfer calonnau a blodau! Ddim yn siŵr os yw hyn yn arwydd o rywbeth?

Beth yw eich hoff lyfr, ffilm neu albym a pham?

Line of Duty; rhaid cyfaddef, nes i wylio rhain un ar ôl y llall! Dwi yn meddwl petai fi’n dechrau fy ngyrfa eto, fe fyddai ditectif yn uchel iawn ar y rhestr.

Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi’n ofergoelus iawn! Anaml welwch chi fi yn gwisgo lliw gwyrdd (dwi meddwl ei fod yn anlwcus), dwi ddim yn ffan mawr o’r rhif 13, dwi ddim yn torri fy ngwallt na fy ewinedd ar Ddydd Sul, dim cerdded dan ysgol, dim cerdded dros ddraen, dim pasio neb ar y grisiau chwaith… Beth arall gwedwch?

Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?

Teulu ni, achos nhw yw fy myd!

Ffynhonnell y llun, Meinir Howells
Disgrifiad o’r llun,

Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?

Fel un sy’n hoff o fwyd a phobl, fe fydden i’n cynnal parti mawr gyda bwydydd Cymreig go iawn, ac ambell i lased o win hefyd i olchi’r cyfan lawr.

Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Fe fydden ni wrth fy modd yn cael bod yn brif weinidog y wlad am ddiwrnod. Swydd sydd wastad wedi bod o ddiddordeb mawr imi, ond dim gobaith ei gyflawni!



Source link


Discover more from Сегодня.Today

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Discover more from Сегодня.Today

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading