‘Cafodd Mamgu sawl strôc – o’n i ddim yn disgwyl cael un yn 31’

‘Cafodd Mamgu sawl strôc – o’n i ddim yn disgwyl cael un yn 31’


Roedd Angharad Dennis, o Gasllwchwr yn Abertawe, a’i theulu wedi dod adre o barc safari fis Mawrth, pan gafodd ei tharo’n wael gyda’r nos.

Mae’n disgrifio teimlo fel petai’n feddw, er nad oedd hi wedi yfed alcohol, a gweld yr ystafell wely’n troi.

Doedd hi ddim yn gallu symud un o’i breichiau ac un o’i choesau, ac fe symudodd ochr o’i hwyneb i lawr.

“Achos bod Mamgu wedi cael sawl strôc, ro’n i wastad yn meddwl bod risg uwch i fi,” meddai.

“Felly o’n i wastad yn meddwl y gallen i gael un rywbryd yn fy mywyd, ond ddim yn 31 oed…

“O’dd dim byd oedd wedi gwneud i mi feddwl y galle rhywbeth mor traumatic a mawr ddigwydd ar y cyfnod yna yn fy mywyd.”

Roedd hi a’i gŵr newydd briodi ychydig fisoedd ynghynt, ac mae Angharad yn cydnabod nad oedd “bywyd ddim i fod i fynd fel hyn… oedd cynllunie i’r dyfodol gyda ni”.



Source link


Discover more from Сегодня.Today

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Discover more from Сегодня.Today

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading