C’mon Midffîld: Canfod ffrog ‘eiconig’ Wali ar ôl 30 mlynedd

C’mon Midffîld: Canfod ffrog ‘eiconig’ Wali ar ôl 30 mlynedd


Richard Edwards sydd yn actio rhan y dame ym mhanto Theatr Fach Llangefni eleni, ac ef felly fydd yn gwisgo’r ffrog eiconig.

Dywedodd: “Fel un sydd wedi dilyn C’mon Midffîld ac yn ffan mawr o Wali ei hun, Mei Jones, mae’n fraint ofnadwy i mi.

“Dwi ‘di bod allan o’r panto ers sawl blwyddyn, a dod yn ôl am un waith arall flwyddyn yma a ffeindio ‘mod i’n cael gwisgo ffrog Walter Tomos ers 1992.

“Mae’n fraint mawr iawn a dwi wir yn edrych ymlaen. Dwi’n meddwl fod o’n bwysig iawn.

“Mae ‘na lot fawr o gefnogwyr C’mon Midffîld, er toedd fy mhlant i ddim wedi cael eu geni ar y pryd, ond maen nhw’n gwybod bob gair.

“I’r ffrog ddod yma i Theatr Fach yn Llangefni, mae’n hynod o bwysig, nid yn unig i fy nghenhedlaeth i, ond i’r genhedlaeth nesa’ hefyd.

“O feddwl bod hi wedi bod yn cuddio mewn atig ers cymaint o flynyddoedd, ac ar hap a damwain yn glanio’n Theatr Fach, mae’n codi ‘nghalon i’n fawr iawn.”



Source link


Discover more from Сегодня.Today

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Discover more from Сегодня.Today

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading