Miloedd o gartrefi heb ddŵr ac ysgolion ar gau wedi i bibell fyrstio

Miloedd o gartrefi heb ddŵr ac ysgolion ar gau wedi i bibell fyrstio


Gallai hyd at 40,000 o gartrefi ar draws Sir Conwy golli cyflenwad dŵr wedi i bibell fyrstio mewn safle trin dŵr.

Dywedodd Dŵr Cymru bod 8,000 o gartrefi wedi colli cyflenwad nos Fercher, a bod hyd at 33,000 o gartrefi mewn perygl o golli eu cyflenwadau ddydd Iau.

Mae Dŵr Cymru yn dweud eu bod yn gweithio i drwsio pibell ddŵr yn safle Bryn Cowlyd, Dolgarrog a wnaeth fyrstio prynhawn ddydd Mercher.

Mae pedair ysgol gynradd ac un ysgol uwchradd yn Sir Conwy, dolen allanol ar gau oherwydd y broblem, tra bod rhai ysbytai hefyd wedi eu heffeithio.

Mae’r digwyddiad yn effeithio ar gyflenwadau yng Nghonwy, Dolgarrog, Eglwysbach, Groesffordd, Gwytherin, Henryd, Llanbedr y Cennin, Llanddoged, Llanfair Talhaearn, Llangernyw, Maenan, rhannau o Lanrwst, Pandy Tudur, Pentrefelin, Rowen, Rhyd y Foel, Tal y Bont , Tal y Cafn, Tyn Groes a Trofarth.



Source link


Discover more from Сегодня.Today

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Discover more from Сегодня.Today

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading