Nia Jeffreys yn arweinydd Grŵp Cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd
Mae’r Cynghorydd Nia Jeffreys wedi cael ei hethol fel arweinydd newydd Grŵp Cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd mewn cyfarfod yng Nghaernarfon ar 13 Tachwedd.
Hi yw arweinydd cyntaf benywaidd grŵp Plaid Cymru yng Ngwynedd, ac wedi bod yn ddirprwy arweinydd ar y grŵp ers 2022.
Eisoes hi ydy arweinydd dros dro Cyngor Gwynedd ers i’r cyn arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn gamu lawr o’i rôl ganol fis Hydref.
Bydd Cyngor Gwynedd yn cyfarfod ddydd Iau, 5 Rhagfyr, i ethol arweinydd newydd parhaol y cyngor.
Plaid Cymru Gwynedd yw’r grŵp mwyaf ar y cyngor, gyda 46 o aelodau yn y grŵp.
Discover more from Сегодня.Today
Subscribe to get the latest posts sent to your email.