‘Pobl ddim i fod i weld erchyllterau Afghanistan’
Mae Sarjant Peters, 42, yn un o 10 cyn-filwr sydd wedi siarad gyda’r BBC fel rhan o raglen ddogfen newydd – Helmand: Tour of Duty – sy’n nodi degawd ers i’r fyddin adael Afghanistan.
Ym mis Medi 2009, roedd gan blatŵn Sarjant Peters lai na mis ar ôl o’u taith pan gafon nhw eu dewis i arwain ymosodiad ar ardal oedd yn cael ei rheoli gan y Taliban.
“Fe wnes i ddatblygu perthynas agos gyda’r cyfieithydd, Ahmed Popal,” meddai.
“Fe ddywedodd wrtha i bod o’n edrych ‘mlaen at fynd adra i weld ei blant a’i deulu ar ddiwedd yr wythnos.
“Roedden ni’n patrolio drwy ardal y Taliban – yn gwybod mai dyma’r ardal fwyaf peryglus yn y byd.”
Dechreuodd yr ymosodiad yn y tywyllwch.
Discover more from Сегодня.Today
Subscribe to get the latest posts sent to your email.