Senedd 2026: Reform fydd y ‘prif heriwr’ i Lafur medd Farage
Deellir bod y blaid yn targedu sicrhau o leiaf 16 Aelod o’r Senedd yn 2026, gyda Mr Farage wedi dweud o’r blaen y byddai Reform yn ennill “llawer o seddi”.
Ni enillodd Reform yr un sedd yng Nghymru yn Etholiad Cyffredinol mis Gorffennaf, ond daeth yn ail mewn 13 o’r 32 sedd a sicrhau 16.9% o’r bleidlais.
Mae disgwyl i system newydd y Senedd – 16 o etholaethau a phob un yn dychwelyd chwe Aelod o’r Senedd – fod yn fwy ffafriol i’r blaid na’r system cyntaf i’r felin a ddefnyddir ar gyfer etholiadau San Steffan.
Pe bai Reform yn ennill seddi yn 2026, byddai’n nodi llwyddiant gwrth-sefydliadol arall i Mr Farage ym Mae Caerdydd.
Ef oedd arweinydd UKIP pan enillodd y blaid honno saith sedd yn 2016, cyn i frwydro mewnol weld y grŵp yn disgyn yn ddarnau dros gyfnod y Senedd.
Yn ddiweddarach arweiniodd Mr Farage Blaid Brexit, oedd hefyd â grŵp yn y Senedd. Newidiodd Plaid Brexit i Reform UK yn ddiweddarach.
Mae gan y blaid hefyd gynghorwyr yng Nghymru am y tro cyntaf, gyda thri aelod annibynnol o gyngor Torfaen yn newid i Reform yn fuan ar ôl yr etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf.
Discover more from Сегодня.Today
Subscribe to get the latest posts sent to your email.